Arddangosfeydd Cyfredol
Our Lecture Theatre is currently closed for redisplay.
Cofio Menywod y Cocos
Mae arddangosfa wedi’i chreu i ddathlu hanes diwydiant cocos Pen-clawdd. Mae’r arddangosfa’n cynnwys ffotograffau, printiadau a phaentiadau ar fenthyg gan ddisgynyddion teuluoedd sefydledig y diwydiant. Ni welwyd llawer o’r eitemau hyn gan y cyhoedd o’r blaen. Bydd ffilm ddogfen fer yn ychwanegiad hyfryd i’r arddangosfa arbennig hon.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn ymweld â ni i gael blas ar gysylltiad Abertawe â’r creadur dwygragennog hwn.



Amgueddfa Gyntaf Cymru
Sefydlwyd Sefydliad Brenhinol De Cymru neu RISW ym 1835. Agorodd yr aelodau sefydlu amgueddfa fawr gyntaf Cymru ym 1841. Amgueddfa Abertawe yw hon bellach, sy’n parhau i fod yn ganolfan diwylliant ffyniannus.

Mae llyfr a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn gosod ei stori yn ei chyd-destun, yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae arbenigwyr blaenllaw yn disgrifio ffurfiant casgliadau niferus ac amrywiol yr Amgueddfa. Mae’r rhain yn cynnwys daeareg, hanes natur, botaneg, archeoleg, Eifftoleg, ffotograffiaeth, y celfyddydau addurnol, cofnodion hanesyddol, darnau arian, mapiau a gwisgoedd.
Mae’r amgueddfa wedi cael ei gweithredu gan Gyngor Abertawe ers dechrau’r 1990au. Fodd bynnag, mae’r RISW yn dal i fod yn grŵp gweithgar ac yn gefnogwyr cryf i’r amgueddfa fel grŵp ei ffrindiau. Mae’r arddangosfa hon yn dathlu eu llyfr newydd a’n treftadaeth ryfeddol. Mae’r arddangosfa hon yn cynnwys eitemau allweddol o gasgliadau’r amgueddfa, sydd wedi’u hamlygu yn y llyfr. Mae rhai o’r gwrthrychau yn cael eu harddangos am y tro cyntaf.



Hanes Naturiol Iawn

Mae gan bobl ddiddordeb diamheuol mewn natur. Dangosir hyn yn glir drwy amrediad ein casgliad hanes natur. O blanhigion wedi’u sychu i chwistlod wedi’u gwasgu, mae gan yr amgueddfa gyfoeth o fflora a ffawna. Er nad oes angen casglu a chadw sbesimenau astudiaethau natur fel hyn mwyach, mae llawer i’w ddysgu o hyd am yr hyn a ysgogodd yr arfer gwreiddiol.
Arddangosfeydd sydd ar ddod
Bydd arddangosfa newydd yn cyrraedd ym mis Ebrill…
Gorchest a Galar
Abertawe VE 80
Ddydd Iau 8 Mai 2025 byddwn yn dathlu 80 mlynedd ers diwedd swyddogol yr Ail Ryfel Byd, sef Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop (VE).
Fel llawer o leoedd eraill, dioddefodd Abertawe’n enbyd yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Gadawodd arswyd y Blitz Tair Noson argraff annileadwy ar y dref, a gafodd ei distrywio a’i newid am byth.
Drwy ffotograffau, hanesion llafar, deunydd ffilm ac arteffactau, mae’r arddangosfa hon yn archwilio Abertawe a’r rhyfel. Rydym yn cofio sut ymdriniwyd ag erchyllter y blitz a gwydnwch y bobl gartref. Rydym yn edrych ar gyfraniad mawr dociau Abertawe at Ddiwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop a sut ymatebodd pobl Abertawe pan gyhoeddwyd y fuddugoliaeth yn y diwedd.
Yn agor yn Amgueddfa Abertawe ddydd Gwener 11 Ebrill 2025.
Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr i dderbyn newyddion am y digwyddiad i’ch mewnflwch.