Roedd y blwch rhoddion hwn sy’n dyddio o oddeutu 1940 yn cynnwys losin ar un adeg (pwysau net 8 owns) a gynhyrchwyd gan Henry Heide Inc. (Efrog Newydd), cwmni losin o America a sefydlwyd ym 1869, a fu’n gweithredu am 125 o flynyddoedd nes i gwmni Hershey Foods Corporation gymryd y busnes drosodd ym 1995/6.
Mae’r cynnwys wedi’i fwyta ers tro, ond mae’r papur cwyrog gwreiddiol yn dal i leinio’r blwch. Cynnyrch arbenigol Henry Heide oedd past almon (neu farsipán), ac eilbeth yn unig oedd cynhyrchu losin.
Mae’r clawr wedi’i addurno â golygfa aeafol o dai toeon coch a choed conwydd gwyrdd yn yr eira, gyda’r arysgrifen ganlynol arno: ‘Christmas Greetings from the …British War Relief Society Inc. United States of America’. Roedd hwn yn sefydliad elusennol anfilwrol a grëwyd ym 1939 â’r bwriad o ddarparu lles a chefnogaeth i filwyr yn Ewrop.
Byddai’r gymdeithas yn codi arian trwy werthu swfenîrs yn America ac Ewrop a thrwy gynnal ffeiriau crefft a garddwesti ledled y wlad. Daeth 40% o fuddion y Gymdeithas Cymorth Rhyfel i Brydain.
Cedwir yr eitem hon yng Nghanolfan Gasgliadau Amgueddfa Abertawe yng Nglandŵr, yn y storfeydd.