Dyluniwyd y math hwn o loches cyrch awyr gan David Anderson, B. L. Hurst a Syr Henry Jupp yn seiliedig ar y prototeip o 1938 a grëwyd gan William Paterson ac Oscar Carl Kerrison.
Roedd y lloches ddur rhychiog alfanedig, a ddyluniwyd i’w hadeiladu mewn twll pedair troedfedd o ddyfnder yn yr ardd, yn cynnwys 14 o baneli wedi’u bolltio ynghyd: 6 phanel crwm ar y rhan uchaf, 3 darn syth ar bob ochr ac un panel syth ym mhob pen, yr oedd un ohonynt yn cynnwys drws.
Ar ôl ei hadeiladu, roedd y lloches yn 6 ′ o uchder x 4′ 6″ o led x 6′ 6″ o hyd ac roedd lle i 4 i 6 pherson ynddi. I gwblhau’r gwaith adeiladu, y bwriad oedd y byddai 15″ o bridd yn cael ei daenu dros do’r lloches. Codwyd dros 2 filiwn o lochesi yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
I’r rhai ag incwm isel, fe’u rhoddwyd iddynt am ddim ond cododd y Llywodraeth dâl o £7 amdanynt i bobl ag incwm uwch.
Enwyd y llochesi ar ôl yr Ysgrifennydd Cartref, Syr John Anderson, a oedd yn gyfrifol am amddiffyn sifil ym 1938.
Cedwir yr eitem hon yng Nghanolfan Gasgliadau Amgueddfa Abertawe yng Nglandŵr, yn y storfeydd.