Mae’r tun hwn sydd heb ei agor yn dyddio o’r Ail Ryfel Byd (1939-45). Mae’n cynnwys cneuen goco wedi’i thorri’n fân mewn syryp a gynhyrchwyd gan Bahama Food Products Limited o Nassau (sydd bellach yn un o is-gwmnïau Nestlé).
Ar adeg pan oedd bwyd wedi’i ddogni (dechreuodd hyn ym 1940) a phan nad oedd danteithfwyd yn rhan o ddeiet pawb oherwydd prinder bwyd (e.e. ni ddaeth bananas ar gael eto tan 1945), mae’n debygol y byddai cneuen goco wedi’i thorri’n fân wedi cael croeso mawr fel cynhwysyn ychwanegol mewn teisennau neu fisgedi.
Cedwir yr eitem hon yng Nghanolfan Gasgliadau Amgueddfa Abertawe yng Nglandŵr, yn y storfeydd.