Mae llawer o ymwelwyr yn dod i Amgueddfa Abertawe i weld y mymi Eifftaidd. Cafwyd mai corff Hor yw’r mymi, offeiriad dilladu ac ysgrifennydd y duw Atum. Yn arfer dyddiol y deml, ei ddyletswydd ef oedd newid y dillad ar gerflun sanctaidd y duw. Roedd e’n byw yn Akhmim yn yr Aifft Uchaf rhwng 250-200 C.C. yn ystod Brenhinlin Ptolemi ac fe’i henwyd ar ôl y duw, Horus.
Rhoddwyd y mymi i Amgueddfa Abertawe ym 1888 gan y Maeslywydd yr Arglwydd Francis Grenfell a anwyd yn ardal St Thomas yn Abertawe ym 1841. Dewisodd Grenfell yrfa yn y fyddin yn hytrach nag ymuno â busnes copr ei deulu. Ym 1882, fe’i hanfonwyd i’r Aifft ac ym 1885 daeth yn gadbennaeth neu’n sirdar y Fyddin Brydeinig yn yr Aifft.
Bu ei chwaer, Mary Grenfell, yn ymweld ag ef yn yr Aifft, gan annog ei ddiddordeb mewn archaeoleg a hanes yr Aifft i’r fath raddau nes iddo ofyn am gymorth yr archeolegydd, Wallis Budge, a oedd yn allweddol wrth brynu’r mymi, ei arch ac eitemau eraill llai ar gyfer Sefydliad Brenhinol De Cymru (enw Amgueddfa Abertawe gynt).
Ymddangosodd adroddiad am y mymi yn cyrraedd yr amgueddfa ym mhapur newydd The Cambrian ym mis Tachwedd, 1888, ac agorwyd yr arddangosfa Eifftaidd newydd gan Miss Mary Grenfell.
Mae’r mymi’n cael ei arddangos yn Amgueddfa Abertawe yn yr Oriel Eifftaidd.