Roedd ffigyrau fel hyn yn cael eu gosod mewn beddrodau i gynrychioli teulu a gweision y person marw.
Mae’r ffigwr hwn o’r 18fed frenhinlin (1,450-1,372 CC) wedi’i gerfio o bren. Fe’i cafwyd yn Aswan yn yr Aifft gan Syr Francis Grenfell (o St.Thomas, Abertawe) a’i roi’n rhodd i Amgueddfa Abertawe (trwy Sefydliad Brenhinol De Cymru) ym 1884.