Ym 1860/1, darganfu’r Parchedig Edward Knight James, Rheithor Penmaen, ddarn o wydr paentiedig wrth gerdded ar hyd Twyni Penmaen.
Gan wybod am y traddodiad lleo a oedd yn tybio bod eglwys ac efallai pentref cyfan sef ‘Stedworlango’ wedi’u claddu o dan y twyni, parhaodd ymhellach â’r darganfyddiad drwy ddweud wrth ei ffrind, Matthew Moggridge – “..myfyriwr natur a ffosilau” (Gabb,G. Mr. Dillwyn’s Diary).
Gyda chaniatâd perchennog y tir, C.R.M.Talbot, cyflogwyd dau labrwr i glirio’r safle gan ddarganfod gweddillion eglwys ganoloesol a nifer o arteffactau, gan gynnwys y botwm hwn, sydd bellach yn cael eu harddangos yn Amgueddfa Abertawe.
Rhoddwyd yr arteffactau hyn yn wreiddiol i Sefydliad Brenhinol De Cymru gan Mr Moggridge, a oedd yn briod â Fanny Dillwyn, merch hynaf Lewis Weston Dillwyn.
Ym 1920, profodd dadansoddwr cyhoeddus Abertawe, Clarence A. Seyler mai un cae’n unig oedd ‘Stedworlango’ yn hytrach na phentref coll cyfan.