(Cefn Hirfynydd) sy’n rhan o groes olwyn Geltaidd.
Offeiriad Celtaidd yw’r ffigur arni, a’i ddwylo wedi’u codi mewn gweddi. Mae’n gwisgo cilt pletiog byr.
Mae rhan waelod y goes olwyn uwchben yr offeiriad. Y darn yma o garreg yw’r siafft unionsyth. Mae’r darn mwy llydan, wedi’i gerfio gyda gweddill y groes olwyn, wedi torri oddi arni ar ryw adeg ac mae bellach ar goll.
Cerfiwyd y groes hon yn ystod yr unfed ganrif ar ddeg. Mae’n cynrychioli traddodiad Cristnogol a drosglwyddwyd i Gymru gan fynachod o Iwerddon. Mae ffigurau dynol wedi’u cerfio ar groesau Celtaidd yn anghyffredin iawn ym Mhrydain.
Nid ydym yn gwybod lle’r oedd y groes yn sefyll yn wreiddiol. Fe’i darganfuwyd ar fynydd ger y Banwen, i’r gogledd o Gastell-nedd, ac mae’n bosib y cafodd ei defnyddio fel arwyddbost.
Yn ystod y ddeunawfed ganrif, symudwyd y garreg gan Syr Humphrey Mackworth, diwydiannwr lleol, i’w gartref, sef y Gnoll yng Nghastell-nedd, lle cafodd ei chynnwys yn y groto a adeiladodd yn ei ardd.