Crib ymbincio ddwyochrog, sydd bron yn gyfan ac eithrio ychydig o ddannedd.
Mae’n debyg iddi gael ei gwneud o un darn o asgwrn, a cheir bwlch o oddeutu 0.2cm rhwng y dannedd a dorrwyd â llaw. Mae’r ymylon yn blaen a cheir rhigolau lletraws a grëwyd drwy leihau hyd y dannedd.
Mae hyd y dannedd yn anghyfartal, er mae’n debygol nad traul sy’n gyfrifol am hyn. Ceir pâr o farrau cryfhau anwastad, â phennau amgrwm, ar hyd canol y grib, ond maent yn dod i ben cyn yr ymylon, ac fe’u cedwir yn eu lle gan bum rhybed haearn. Maent wedi’u creithio lle torrwyd y dannedd.
Mae’r rhigolau lletraws yn awgrymu ffurf daleithiol Rufeinig hwyr. Daw enghraifft hynod debyg o’r pedwerydd neu’r bumed ganrif yng Nghaer Colun.
Cloddiwyd y grib yn Minchin Hole yn Pennard, Gŵyr, gan J. G. Rutter ac E. J. Mason.
Cedwir yr eitem hon yng Nghanolfan Gasgliadau Amgueddfa Abertawe yng Nglandŵr, yn y storfeydd.