Roedd yn arfer, rhwng yr ail ganrif ar bymtheg a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg yng Nghymru, i ddyn a oedd yn canlyn menyw gerfio llwy garu bren iddi. Roedd yr enghreifftiau cynnar, sy’n dyddio o’r ddeunawfed ganrif, yn gopïau o’r llwyau metel a ddefnyddiwyd gan dirfeddianwyr cefnog.
Wrth i’r traddodiad ddatblygu, roedd dynion ifanc yn cerfio dyluniadau coethach ar ddolenni’r llwyau. Roedd cymhlethdod y dyluniadau’n dangos medrusrwydd y cerfiwr a nerth ei gariad. Fel gyda llawer o arferion, mae’r defnydd ymarferol gwreiddiol wedi’i ddisodli, ac erbyn heddiw, diben pur addurniadol sydd i lwyau caru.
Mae’r llwy garu hon yn un o nifer a roddwyd i Sefydliad Brenhinol De Cymru (Amgueddfa Abertawe) gan y Cyrnol William E. Ll. Morgan.
Mae dyluniad y darn hwn yn cynnwys elfennau o ddolen gadwyn sy’n dynodi cariad a gipiwyd a hefyd y blodyn sy’n symbol o garwriaeth.
Yn ogystal â gofyn y cwestiwn ‘gaf i dy ganlyn?’, mae’r dyluniad hwn o galonnau sengl a dwbl hefyd yn dangos cariad a rennir.
Mae’r ddolen hon yn cynnwys tair elfen, dolenni cadwyn sy’n dynodi cariad a gipiwyd, y blodyn sy’n symbol o garwriaeth a’r galon sengl sy’n holi am bosibilrwydd canlyn.