Darganfuwyd y pen carreg cerfluniedig hwn ar safle’r hen Reithordy yn Stryd Fisher, Abertawe; mae’n dyddio o oddeutu 1330. Credir iddo ddod o Eglwys y Santes Fair, Abertawe, lle mae’n bosibl mai post ffenestr ydoedd mewn pensaernïaeth Gothig, bar fertigol a oedd yn rhannu’r cwareli mewn ffenestr.
Credir ei fod yn cynrychioli Alina de Mowbray, merch hynaf Gwilym Brewys, Arglwydd Gŵyr. Pan fu farw brawd Alina, sef Gwilym, ym 1318, cyflwynodd ei thad Arglwyddiaeth Gŵyr i Alina a’i gŵr, John de Mowbray.
Fodd bynnag, mewn ymgais i wneud arian, mae’n ymddangos ei fod wedi gwneud yr un addewid i sawl person arall a aeth ati wedyn i herio Alina a John. Ymyrrodd y brenin, Edward II, yn yr anghydfod a ddilynodd hyn a dienyddiwyd sawl person, gan gynnwys John de Mowbray.
Ym 1327, adenillodd Alina Arglwyddiaeth Gŵyr, ond pan briododd am yr ail dro ym 1328 â Richard de Pershall, nid oedd Alina na’i gŵr newydd yn boblogaidd gyda phobl Gŵyr.
Pan fu farw Alina ym 1331, aeth y teitl i’w mab o’i phriodas gyntaf, a enwyd John de Mowbray hefyd. Fodd bynnag, ni lwyddodd i gynnal cysylltiad agos y teulu â Gŵyr, gan ymwneud â’i ddiddordebau busnes helaeth yn Lloegr yn hytrach na chadw Abertawe’n brif breswylfan.
Roedd gan Alina gysylltiadau cryf â Chastell Ystumllwynarth – ewch i www.abertawe.gov.uk/oystermouthcastle i gael mwy o wybodaeth am waith cadwraeth a digwyddiadau yn y castell.