Cyn 1600, gwnaed poteli fel arfer o grochenwaith neu ledr ond erbyn canol y ganrif hon, roedd y botel win wydr gwyrdd tywyll/du newydd yn cael ei defnyddio’n gyffredinol. Roedd poteli gwydr cynnar yn fyrdew, yn llydan ac yn grwn ond oddeutu 1800, daethant yn dalach ac yn fwy onglog, yn debyg iawn i boteli modern.
Ar ôl tua 1650, ychwanegwyd seliau gwydr yn aml at boteli, yn dangos enw’r perchennog a dyddiad fel arfer. (Gwelir sêl ‘M. Yeo 1728′ ar y botel hon′). Ym 1615, am ei bod yn pryderu bod coedwigoedd yn cael eu dinistrio, roedd y Llywodraeth wedi gwahardd defnyddio pren fel tanwydd mewn ffwrneisi gwneud gwydr.
Felly sefydlwyd gweithfeydd gwydr ger cyflenwadau glo ac erbyn 1678, roedd un yn gweithredu yng nghanol Abertawe. Yma roedd harbwr da, glo rhad a digon o wymon (defnyddiwyd lludw gwymon yn y broses gwneud gwydr).
Sefydlwyd Gwaith Gwydr Abertawe y tu mewn i gastell gwag y dref. Cynhyrchwyd poteli gwin byrdew du ac erbyn 1696, roedd yn un o’r 37 o weithfeydd gwydr ar draws Cymru a Lloegr. Fe’i sefydlwyd gan Robert Wilmott o Gaerloyw a John Man o Abertawe.
Prydlesodd Wimlott le yn y castell gan Ddug Beaufort, am saith mlynedd o 1684. Ond mae’n rhaid bod y gwaith wedi dechrau’n gynharach oherwydd bod y geiriau ‘glass house’ yn ymddangos ar fraslun o’r castell gan Francis Place ym 1678.
Gwerthodd Wilmott y brydles i’w bartner ym 1686. Codwyd treth uchel iawn ar wneud gwydr ym 1695 ac er ei bod wedi para am ddwy flynedd, mae’n bosib ei bod wedi bod yn ddigon i gau gwaith gwydr John Man ym 1696.
Mae’r eitem hon yn yr Oriel Tsieini yn Amgueddfa Abertawe.