Mae’r ystên efydd hon (neu olchlestr trybedd) yn dyddio o ddechrau’r bedwaredd ganrif ar ddeg. Cafodd ei darganfod ym Mhenrhyn Gŵyr ac mae’n gyfan ac eithrio caead colfachog sydd ar goll.
Fe’i hadwaenir fel Ystên Gilbert a cheir arysgrif arni mewn priflythrennau Lombardaidd, “IE SVI LAWR GILEBERT KI MEMBLERA MAL I DEDERT”, sydd, o’i chyfieithu, yn dweud, “Myfi yw Ystên Gilbert. Boed y sawl sy’n fy nghludo ymaith gael drygioni ohono.”
Ceir symbol o groes o flaen yr arysgrif. Dyma oedd yr arfer yn aml ar glychau arysgrifedig eglwysi, sydd o bosib yn dangos ei bod wedi’i gwneud gan fwriwr clychau. Fel arall, nid oes unrhyw gofnod i ddangos ble, pryd na chan bwy y cafodd ei darganfod.
Defnyddiwyd ystenau gan westeion yn ystod gwleddoedd i olchi eu dwylo rhwng y cyrsiau bwyd, arfer a gyflwynwyd gan y Croesgadwyr cyn i ffyrc gael eu dyfeisio.
Roedd yr ystên hon yn eiddo i Gilbert de Clare, Arglwydd Morgannwg, a laddwyd ym Mrwydr Bannockburn ym 1314. Yn eironig, roedd ei deyrnasiad fel Arglwydd Morgannwg yn nodedig fel cyfnod o heddwch a sefydlogrwydd.