Mae Eich Paentiadau yn fenter ar y cyd rhwng y BBC, y Sefydliad Catalogau Cyhoeddus (elusen gofrestredig) a chasgliadau ac amgueddfeydd o bob rhan o’r DU sy’n rhan o’r fenter.
Mae paentiadau olew o leoliadau diwylliannol Dinas a Sir Abertawe wedi’u cynnwys yn y casgliad cenedlaethol:
- Amgueddfa Abertawe
- Canolfan Gasgliadau’r Amgueddfa
- Y Sied Dramiau
- Oriel Gelf Glynn Vivian
- Neuadd Brangwyn
Dyma rai casgliadau eraill yn Abertawe sydd ar gael ar-lein:
- Ysbyty Gellinudd
- Ysbyty Gorseinon
- Canolfan Treftadaeth Gŵyr
- Canolfan Maggie Abertawe
- Ysbyty Treforys
- Ysbyty Singleton
- Prifysgol Fetropolitan Abertawe
Nod y wefan yw dangos casgliad cenedlaethol cyfan y DU o baentiadau olew, y straeon y tu ôl i’r paentiadau a lle gallwch weld y paentiadau go iawn. Mae’n cynnwys paentiadau o filoedd o amgueddfeydd a sefydliadau cyhoeddus eraill ledled y wlad.
Amcangyfrifwyd bod rhyw 212,000 o baentiadau olew yng nghasgliad cenedlaethol y DU gyda gweithiau gan rai o arlunwyr gorau’r 700 o flynyddoedd diwethaf, yn ogystal â phaentiadau gan filoedd o arlunwyr llai adnabyddus.
Am fwy o wybodaeth, ewch i’r wefan Your Paintings a’u dilyn ar Twitter a Facebook.