Model bras o’r sffêr wybrennol, fel arfer â’r ddaear yn y canol, sy’n dangos y cyhydedd, y pegynau, y trofannau, arwyddion y sidydd, etc., ar y cylch allanol, a’r cylchoedd mewnol ar gyfer yr haul, y lleuad a’r planedau.
Mae’n offeryn sy’n deillio o ddiwedd y 14eg ganrif – dechrau’r 15fed ganrif, wedi’i ddylunio i roi gwybodaeth i’r llywiwr am drefn a symudiadau’r cyrff wybrennol.
Gwnaed y model efydd hwn tua 1800.
Cedwir yr eitem hon yng Nghanolfan Gasgliadau Amgueddfa Abertawe yng Nglandŵr, yn y storfeydd.