Mae ein casgliad yn cynnwys llawer o wrthrychau a roddwyd yn garedig gan aelodau’r cyhoedd ac rydym bob amser yn hapus i drafod rhoddion posib newydd i’r amgueddfa. Mae’r rhoddion hael hyn yn ein galluogi i gyfoethogi ein casgliadau hanesyddol ac ychwanegu atynt ac adrodd rhagor o straeon diddorol am Abertawe i chi eu mwynhau.
Sut ydw i’n dechrau arni?
Os oes gennych chi eitem rydych chi’n meddwl y byddai diddordeb gennym ynddi, e-bostiwch ni a rhowch wybod i ni amdani. Amgueddfa.abertawe@abertawe.gov.uk
Rhowch gymaint o wybodaeth â phosib am yr eitem. Sut ddaeth i’ch meddiant neu ble y daethoch o hyd iddi; beth yw ei hanes a beth yw ei chysylltiadau ag Abertawe?
Atodwch lun ohoni, os yw hyn yn bosib, gyda rhywbeth yn y llun er mwyn dangos y raddfa – byddai hynny’n ddefnyddiol iawn.
Sylwer nad ydym yn rhoi prisiad ar gyfer eitemau.
Beth sy’n digwydd nesaf?
Fel tîm, byddwn yn edrych ar yr wybodaeth rydych chi wedi’i hanfon atom ac yn asesu a yw eich eitem yn rhywbeth y byddem am ei chynnwys yn un o’n casgliadau.
Efallai y gofynnwn i chi ddod â’r eitem i’r amgueddfa mwyn i ni ei gweld, os yw hynny’n bosib. Arhoswch i ni gysylltu â chi gydag apwyntiad cyn i chi alw mewn. Drwy wneud hyn, gallwn sicrhau bod rhywun yma i siarad â chi ac i arbed taith ddiangen.
Peidiwch ag anfon unrhyw wrthrychau drwy’r post na’u gadael yn yr Amgueddfa’n ddienw.
Nid ydym yn gallu casglu popeth a gynigir i ni. Mae Polisi Casgliadau ein hamgueddfa’n ein harwain o ran yr hyn y gallwn ac ni allwn ei dderbyn. Y peth pwysicaf rydym yn edrych amdano yw a oes gan yr eitem gysylltiad agos ag Abertawe a’r cylch neu a yw’n adrodd stori gref am Abertawe. Os bydd gennym ddiddordeb mewn arddangos eich eitem fel rhan o’n casgliad, byddwn yn rhoi gwybod i chi ac yn trefnu i chi ddod â’r eitem atom.
Casgliad trin a thrafod
Weithiau, byddwn yn gofyn i chi a ydych chi’n fodlon rhoi eich eitem i’n casgliadau addysg/trin a thrafod. Defnyddir ein casgliadau addysg/trin a thrafod gyda grwpiau ysgolion, ar gyfer sesiynau atgofion ac ar gyfer sesiynau cynnwys y cyhoedd. Maent yn rhan hanfodol o ddod â hanes yn fyw ac mae llawer o bobl yn eu mwynhau. Fodd bynnag, gall traul effeithio arnynt yn y pen draw sy’n golygu bod posibilrwydd na allant gael eu defnyddio mwyach.
Beth os nad ydym yn derbyn eich eitem?
Gallwn wrthod eich eitem am sawl rheswm. Peidiwch â digio. Bydd ein staff wrth law i’ch cynghori os oes unrhyw amgueddfeydd eraill a allai fod â diddordeb yn eich eitem ac rydym bob amser yn ddiolchgar eich bod yn ystyried rhoi eich eitemau i’r Amgueddfa.
Pryd caiff yr eitem ei harddangos?
Mae’n annhebygol y bydd eich eitem yn cael ei harddangos ar unwaith, er rydym yn amlygu eitemau newydd yn y casgliad mor aml â phosib. Mae’r amgueddfa’n gofalu am gannoedd o eitemau a chynllunnir arddangosfeydd flynyddoedd lawer ymlaen llaw. Bydd eich eitem yn derbyn y gofal gorau posib, ac yn cael ei dogfennu a’i storio. Bydd ar gael i ymchwilwyr ei hastudio, at ddibenion addysgol a gall fod yn rhan o arddangosiadau yn y dyfodol os yw’n briodol. Mae croeso i chi ddod i’w gweld ar unrhyw adeg drwy drefnu apwyntiad.
Ydw i’n gallu gadael eitemau i’r amgueddfa yn fy ewyllys?
Ydych. Anfonwch fanylion y cynnig atom a byddwn yn eu hystyried ac yn rhoi gwybod i chi a yw’r amgueddfa’n gallu ei dderbyn yn unol â’n Polisi Casglu cyfredol. Yn anffodus, nid ydym yn gallu gwarantu na fydd yr amgylchiadau’n newid pan ddaw’r amser. Er enghraifft, efallai fod yr amgueddfa wedi derbyn eitemau tebyg yn y cyfamser ac, o ganlyniad, nid ydym mewn sefyllfa i dderbyn eich rhoddion.