Defnyddid injans tân llaw o ddechrau’r 18fed ganrif hyd at oddeutu 1860pan gawsant eu disodli gan fersiynau ager.
Mae’r injan dân arbennig hon, y ‘Merryweather’ o Lundain, yn dyddio o oddeutu 1840. Fe’i dyluniwyd i gael ei thynnu â cheffyl ac mae ganddi siambr blwm yn ei chorff pren sy’n dal y dŵr.
Byddai’n rhaid i dimau o ddiffoddwyr tân ddefnyddio’r polion pren ar ochr yr injan fel pympiau llaw i bwmpio’r dŵr allan.
Cedwir yr eitem hon yng Nghanolfan Gasgliadau Amgueddfa Abertawe yng Nglandŵr, yn y storfeydd