Dewch i archwilio rhai o drysorau casgliad enfawr Amgueddfa Abertawe, sy’n cwmpasu popeth o Hor y Mymi Eifftaidd i rai o ffotograffau cynharaf y byd.
Cyn bo hir, byddwch yn gallu chwilio drwy’r casgliad cyfan ar-lein – rydym yn gweithio’n galed i alluogi hyn i ddigwydd, felly cadwch lygad ar y wefan.
Eich Paentiadau
Mae ‘Eich Paentiadau’ yn fenter ar y cyd rhwng y BBC, y Sefydliad Catalogau Cyhoeddus (elusen gofrestredig) a chasgliadau ac amgueddfeydd o bob rhan o’r DU sy’n rhan o’r fenter. Nod y sioe yw dangos casgliad cenedlaethol cyfan y DU o baentiadau olew, y straeon y tu ôl i’r paentiadau a lle gallwch weld y paentiadau go iawn.
Arteffactau’r Aifft
Mae Amgueddfa Abertawe’n gartref i Hor y Mymi, a roddwyd i Amgueddfa Abertawe ym 1888, a Swynogl Garan yr Aifft, cynrychiolaeth o Dduw Thoth.
Gwrthrychau Morwrol
Mae casgliad Amgueddfa Abertawe’n cynnwys nifer o wrthrychau morwrol gan gynnwys cerdyn Nadolig pluen a sffêr cylchrwyol.
Darganfyddiadau o Abertawe a Chastell-nedd
Mae gan Amgueddfa Abertawe lawer o wrthrychau diddorol y’u darganfuwyd yn ne Cymru. Mae’r eitemau amrywiol yn cynnwys Carreg y Gnoll, Crib Asgwrn Rufeinig, Ystên Gilbert a llawer mwy.
Darganfod mwy am ddarganfyddiadau o Abertawe a Chastell-nedd.
Amser Rhyfel yn Abertawe
Mae’r amgueddfa’n cynnwys llawer o wrthrychau sy’n dod â’r caledi a brofwyd yn Abertawe yn ystod y rhyfel yn fyw.