Cyflwyniad
Sesiwn sy’n edrych ar gartrefi a bywyd bob dydd, a’r newidiadau dros y 150 o flynyddoedd diwethaf.
Sesiwn addysgu weithredol, gan drafod gwrthrychau o’r presennol a’r gorffennol yn helaeth ac astudio’r gwahaniaethau. Mae newidiadau mewn bywyd pob dydd yn cael eu dangos yn glir drwy archwilio eitemau fel gefeiliau gwallt, haearn smwddio, goleuo, glanhau a sut i olchi’ch dillad.
Bydd y sesiwn hefyd yn ystyried sut rydym yn cynhyrchu trydan ar hyn o bryd a’r angen i symud at fathau mwy adnewyddadwy o ynni.
Lefel cynnydd 1 a 2
Oedran targed Blwyddyn 2 i 4
Hyd y sesiwn – 2 awr
Maes Dysgu:
Dyniaethau
Datganiadau o’r Hyn sy’n Bwysig:
Mae ymholi, archwilio ac ymchwilio’n annog chwilfrydedd ynghylch y byd, ei orffennol, y presennol a’r dyfodol.
Mae digwyddiadau a phrofiadau pobl yn gymhleth ac maent yn cael eu hystyried, eu dehongli a’u portreadu mewn ffyrdd gwahanol.
Mae dinasyddion gwybodus, hunanymwybodol yn ymgysylltu â’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu bodau dynol, ac maent yn gallu ymateb mewn ffordd ystyriol a moesegol.
Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Mae bod yn chwilfrydig a chwilio am atebion yn hanfodol i ddeall a rhagweld ffenomena.
Mae meddylfryd dylunio a pheirianneg yn cynnig ffyrdd technegol a chreadigol o ddiwallu anghenion a dymuniadau cymdeithas.
Sgiliau Trawsgwricwlaidd:
Creadigrwydd a Blaengaredd