Cyflwyniad
Mrs Mahoney oedd gwraig gofalwr yr amgueddfa yn y 1850au, a gafodd ei ddiswyddo am ddwyn arian. Roedd y teulu Mahoney’n byw yn selar yr amgueddfa ac yn gorfod gadael ei gartref.
Bydd gan y dosbarth gyfle i gwrdd â Mrs Mahoney sy’n rhannu ei stori drist mewn gwisg ac mewn cymeriad. Caiff y stori ei hadrodd drwy sawl gwrthrych hanesyddol. Bydd y plant yn gweld ei chist o bethau y mae’n eu pacio, a fydd yn dangos y gwahaniaeth rhwng ei ffordd hi o fyw a’u ffordd nhw a sut mae technoleg wedi symud ymlaen a datblygu.
Oedran targed Blwyddyn 1 i 2
Hyd y sesiwn – 1 awr.
Maes Dysgu:
Dyniaethau
Datganiadau o’r Hyn sy’n Bwysig:
Mae ymholi, archwilio ac ymchwilio’n annog chwilfrydedd ynghylch y byd, ei orffennol, y presennol a’r dyfodol.
Mae digwyddiadau a phrofiadau pobl yn gymhleth ac maent yn cael eu hystyried, eu dehongli a’u portreadu mewn ffyrdd gwahanol.
Mae cymdeithasau dynol yn gymhleth ac yn amrywiol, a chânt eu siapio gan weithredoedd a chredoau dynol.
Mae dinasyddion gwybodus, hunanymwybodol yn ymgysylltu â’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu bodau dynol, ac maent yn gallu ymateb mewn ffordd ystyriol a moesegol.
Sgiliau Trawsgwricwlaidd:
Creadigrwydd a Blaengaredd