Mae casgliad Amgueddfa Abertawe yn cynnwys tua 1000 o eitemau o archaeoleg a ganfuwyd yn lleol sy’n anifeiliaid sydd bellach yn ddiflanedig neu’n rhai y byddech yn dod o hyd iddynt mewn lleoedd fel y Safana Affricanaidd.
Ym 1823 gwnaed darganfyddiad yn Ogof Pen-y-fai (Pafiland) ym Mhenrhyn Gŵyr. Darganfuwyd mai ysgerbwd dynol ydoedd a gladdwyd tua 30,000 o flynyddoedd yn ôl a dyma’r gladdedigaeth ddefodol hynaf a ddarganfuwyd yn Ewrop.
Mae Ogof Pen-y-fai (Pafiland) yn edrych dros y môr ond nid pan gladdwyd Menyw Goch Pen-y-fai (Pafiland). Roedd y môr tua saith deg o filltiroedd i ffwrdd.
Mae gan yr amgueddfa hefyd ryw 50,000 o sbesimenau yn y casgliad astudiaeth natur. Mae’r oriel astudiaeth natur yn archwilio’r dirywiad dramatig mewn rhywogaethau lleol a rhyngwladol.
Bydd y sesiwn yn cynnwys cyflwyniad PowerPoint a thaflenni gwaith sy’n gysylltiedig â gwrthrychau’r amgueddfa.
Bydd y sesiwn yn ystyried:
- Pam y mae lefel y môr wedi newid yn sylweddol?
- Pam y mae cynifer o’r anifeiliaid a oedd yn bodoli bryd hynny bellach yn ddiflanedig?
- Pam y mae lefel difodiant yn cynyddu heddiw?
- Pam y mae amgueddfeydd yn cadw casgliadau astudiaeth natur a pheth o’r moeseg sydd ynghlwm wrth hyn.
- Pam y mae’r hinsawdd yn newid dros gyfnodau hir o amser?
- Ydyn ni’n dechrau gorgyfnod daearegol newydd o ganlyniad i ymddygiad dynol?
Lefel cynnydd 2/3
Ystod oedran darged Blwyddyn 3 i 6
Hyd y sesiwn – 2 awr