I lawer o blant, rhaid bod blynyddoedd y rhyfel yn ymddangos fel antur anferth ond dryslyd; i eraill, roedd yn amser gofidus iawn.
Roedd disgwyl i oedolion a phlant fel ei gilydd gario eu masgiau nwy gyda nhw trwy’r amser. Roedd peiriannau anadlu arbennig i fabanod a oedd yn debyg i grudiau. Roedd plant o’r dinasoedd â’r risg uchaf o gael eu bomio yn cael eu hanfon i leoedd mwy diogel, megis cefn gwlad Cymru, lle roedd yn orfodol darparu llety ar gyfer faciwî.
Anfonwyd llawer o blant o Chatham yng Nghaint (lleoliad un o iardiau doc y llynges) fel faciwîs i Bontardawe yng Nghwm Tawe. Dangosai rhai rhieni eu gwladgarwch a’u cefnogaeth dros ymdrech y rhyfel trwy wisgo eu plant mewn iwnifformau milwrol bach. Rhoddodd Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop (8 Mai 1945), Diwrnod Buddugoliaeth yn Japan (15 Awst 1945) a Diwrnod y Fuddugoliaeth (8 Mehefin 1946) y cyfle i gymunedau fwynhau partïon stryd a gorymdeithiau.
Mwy o wybodaeth…
Darganfod mwy am hanes Abertawe…Abertawe – braslun o’i hanes