Cyflwyniad
Mae technoleg heddiw yn newid yn gyflym ac yn dod yn fwy soffistigedig bob dydd. Byddai ein cyndadau cynnar o gyfnodau fel Oes y Cerrig yn rhyfeddu ar y cynnydd mewn technoleg a’r newid cyflym yn y gymdeithas a welwn heddiw. Fodd bynnag, nhw oedd wedi gosod sylfeini ein cymdeithas ddynol fodern dros gyfnod o filoedd o flynyddoedd.
Bydd y sesiwn yn edrych yn ôl dros gyfnod o 30,000 o flynyddoedd gan ystyried:
Cerrig milltir a darganfyddiadau allweddol
Y deunyddiau roeddent yn eu defnyddio a sut roeddent wedi datblygu.
Sut roeddent wedi gosod sylfeini ar gyfer ein byd dynol modern.
Sut roedd yr amgylchedd wedi newid dros y cyfnod a sut roedd pobl gynnar wedi addasu.
Bydd y sesiwn yn gymysgedd o gyflwyniad PowerPoint a gweithgareddau trafod.
Lefel cynnydd 3
Ystod oedran darged – Blwyddyn 4 i 6
Hyd y sesiwn – 2 awr
Cliciwch ar y ddolen ar gyfer Maes Dysgu a’r Hyn Sy’n Bwysig
Maes Dysgu:
Dyniaethau
Datganiadau o’r Hyn sy’n Bwysig:
Mae ymholi, archwilio ac ymchwilio’n annog chwilfrydedd ynghylch y byd, ei orffennol, y presennol a’r dyfodol.
Mae digwyddiadau a phrofiadau pobl yn gymhleth ac maent yn cael eu hystyried, eu dehongli a’u portreadu mewn ffyrdd gwahanol.
Mae ein byd naturiol yn amrywiol ac yn ddynamig, ac mae prosesau a gweithredoedd dynol yn dylanwadu arno.
Mae cymdeithasau dynol yn gymhleth ac yn amrywiol, a chânt eu siapio gan weithredoedd a chredoau dynol.
Mae dinasyddion gwybodus, hunanymwybodol yn ymgysylltu â’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu bodau dynol, ac maent yn gallu ymateb mewn ffordd ystyriol a moesegol.
Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Mae bod yn chwilfrydig a chwilio am atebion yn hanfodol i ddeall a rhagweld ffenomena.
Mae meddylfryd dylunio a pheirianneg yn cynnig ffyrdd technegol a chreadigol o ddiwallu anghenion a dymuniadau cymdeithas.
Sgiliau Trawsgwricwlaidd:
Creadigrwydd a Blaengaredd
Meddwl yn feirniadol a datrys problemau