Mae’r polisi preifatrwydd hwn yn berthnasol i ddefnydd yr wybodaeth bersonol a gesglir gan Ddinas a Sir Abertawe pan fyddwch yn mynd i wefan Amgueddfa Abertawe.
Pan fydd rhywun yn mynd i’r wefan hon, rydym yn casglu gwybodaeth mewngofnodi ar y we safonol a manylion am batrymau ymddygiad pobl sy’n mynd i’r wefan. Rydym yn gwneud hyn i gasglu gwybodaeth am bethau megis nifer y bobl sy’n mynd i wahanol rannau o’r wefan. Rydym yn casglu’r wybodaeth hon mewn modd nad yw’n datgelu pwy yw’r unigolyn.
Ni fyddwn yn gwneud ymdrech i ganfod pwy yw’r unigolion sy’n mynd i’n gwefan. Ni fyddwn yn cysylltu data a gesglir o’r wefan hon â gwybodaeth bersonol a ddaw o unrhyw ffynhonnell.
Os ydym yn dymuno casglu gwybodaeth bersonol am yr unigolyn trwy ein gwefan, byddwn yn dweud hyn wrthych ymlaen llaw. Pan fyddwn yn casglu gwybodaeth bersonol, byddwn yn gwneud hynny’n amlwg a byddwn yn esbonio sut rydym yn bwriadu ei defnyddio.
Cwcis
Pan fyddwn yn darparu gwasanaethau, rydym am sicrhau eu bod yn gyfleus, yn ddefnyddiol ac yn ddibynadwy. Pan ddarperir gwasanaethau trwy’r rhyngrwyd, weithiau gosodir darnau bach o wybodaeth ar eich dyfais, er enghraifft, eich cyfrifiadur neu’ch ffôn symudol. Mae hyn yn cynnwys ffeiliau bach o’r enw cwcis. Nid oes modd eu defnyddio i ddatgelu pwy ydych chi.
Defnyddir y darnau hyn o wybodaeth i wella gwasanaethau i chi, er enghraifft:
- trwy alluogi gwasanaeth i adnabod eich dyfais fel na fydd yn rhaid i chi roi’r un wybodaeth sawl gwaith yn ystod yr un dasg;
- adnabod bod gennych enw defnyddiwr a chyfrinair eisoes fel na fydd angen i chi wneud hyn bob tro rydych yn mynd i dudalen we newydd;
- cyfrif nifer y bobl sy’n defnyddio gwasanaethau er mwyn eu gwneud yn haws eu defnyddio, a mesur bod digon o allu i sicrhau eu bod yn gyflym.
Os hoffech gael mwy o wybodaeth am gwcis, gan gynnwys sut mae gweld pa gwcis sydd wedi’u gosod a sut mae eu rheoli a’u dileu, ewch i www.allaboutcookies.org.
Sut rydym yn defnyddio cwcis
Mae’r cwcis a ddefnyddir ar y wefan hon wedi’u rhannu’n gategorïau, ar sail y categorïau a geir yn Arweiniad i Gwcis ICC UK (www.international-chamber.co.uk). Ceir rhestr o’r holl gwcis a ddefnyddir ar y wefan hon fesul categori isod.
Categori 1: cwcis sy’n gwbl angenrheidiol
Mae’r cwcis hyn yn angenrheidiol er mwyn eich galluogi i gyrchu’r wefan a defnyddio’i nodweddion, megis cyrraedd mannau diogel ar y wefan. Heb y cwcis hyn, ni ellir darparu’r gwasanaethau rydych wedi gofyn amdanynt.
Trwy ddefnyddio ein gwefan, rydych yn cytuno ein bod yn gallu rhoi’r mathau hyn o gwcis ar eich dyfais.
Categori 2: cwcis perfformiad
Mae’r cwcis hyn yn casglu gwybodaeth am sut mae defnyddwyr yn defnyddio gwefan, er enghraifft pa dudalennau y mae pobl yn mynd iddynt amlaf ac os ydynt yn cael negeseuon gwall o’r dudalennau gwe. Nid yw’r cwcis hyn yn casglu gwybodaeth sy’n enwi defnyddiwr. Caiff yr holl wybodaeth y mae’r cwcis hyn yn ei chasglu ei chyfuno ac felly mae’n ddienw. Caiff ei defnyddio i wella sut mae gwefan yn gweithio’n unig.
- I ddewis peidio â chael eich olrhain gan Google Analytics ar draws pob gwefan, ewch i http://tools.google.com/dlpage/gaoptout
- I ddysgu mwy am gwcis Facebook, ewch i https://www.facebook.com/help/?page=176591669064814
Trwy ddefnyddio ein gwefan, rydych yn cytuno ein bod yn gallu rhoi’r mathau hyn o gwcis ar eich dyfais.
Categori 3: cwcis ymarferol
Mae’r cwcis hyn yn galluogi’r wefan i gofio dewisiadau rydych yn eu gwneud (megis eich enw defnyddiwr, eich iaith neu’r rhanbarth rydych chi ynddo) a darparu nodweddion gwell a mwy personol. Er enghraifft, gall gwefan roi adroddiadau tywydd neu newyddion traffig lleol i chi trwy storio’r rhanbarth rydych chi ynddo ar y pryd mewn cwci.
Gellir defnyddio’r cwcis hyn hefyd i gofio newidiadau rydych wedi’u gwneud i ddewisiadau iaith a rhannau eraill o dudalennau gwe rydych yn gallu eu haddasu. Gallent hefyd gael eu defnyddio i ddarparu gwasanaethau rydych wedi gofyn amdanynt megis gwylio fideo neu wneud sylwadau ar flog.
Gall yr wybodaeth y mae’r cwcis hyn yn ei chasglu fod yn ddienw ac ni allant olrhain eich gweithgarwch pori ar wefannau eraill.
Trwy ddefnyddio ein gwefan, rydych yn cytuno ein bod yn gallu rhoi’r mathau hyn o gwcis ar eich dyfais.
Rydym yn defnyddio’r cwcis canlynol ar ein gwefan:
__utmz, __utmc, __utmb, __utma
Wedi’u gosod gan Google Analytics, defnyddir y cwcis hyn i gasglu gwybodaeth am sut mae pobl yn defnyddio’n gwefan. Rydym yn defnyddio’r wybodaeth i lunio adroddiadau a’n helpu i wella’r wefan. Mae’r cwcis yn casglu gwybodaeth ddienw, gan gynnwys nifer y rhai sy’n mynd i’r wefan, o ble y daeth pobl i’r wefan, a’r tudalennau maent wedi edrych arnynt.
Cwcis a anfonir gan wefannau trydydd parti
I ategu’n gwefan, weithiau rydym yn gosod ffotograffau a fideos o wefannau megis Facebook, Twitter, YouTube a Flickr. O ganlyniad, os ydych yn agor tudalen â chynnwys o wefan arall, er enghraifft Facebook neu Twitter, mae’n bosibl y byddwch yn derbyn cwcis o’r gwefannau hyn. Nid yw Dinas a Sir Abertawe’n rheoli dosbarthiad y cwcis hyn. Dylech fynd i wefan y trydydd parti perthnasol i gael mwy o wybodaeth am y rhain.
Sylwer: Os ydych yn dewis peidio ag analluogi cwcis yn eich porwr gwe, rydych yn cytuno y cawn eu defnyddio ar ein gwefan.
Defnydd gwybodaeth
Pan rydych yn dewis rhoi’ch manylion personol i ni, defnyddir y data personol a ddarparwyd gennych i Gyngor Dinas a Sir Abertawe dim ond i ddarparu’r wybodaeth neu’r gwasanaeth rydych wedi gofyn amdani/amdano.
Mewn rhai achosion, efallai y byddwn yn eich gwahodd i gofrestru am wasanaethau ychwanegol ar yr un pryd (er enghraifft, rhestr bostio reolaidd) – gallwch ddewis peidio â derbyn y gwahoddiad hwn.