Dyniaethau Datganiadau a Chamau Cynnydd | Mrs Mahoney | Teganau | Bant â Ni i Lan y Môr | Straeon a Defodau’r Nadolig | Newid yn yr Hinsawdd a Chadwraeth |
Mae ymholi, archwilio ac ymchwilio yn ysbrydoli chwilfrydedd am y byd, ei orffennol, ei bresennol a’i ddyfodol. | |||||
Rwy’n gallu, trwy chwarae, archwilio, darganfod a dechrau gofyn cwestiynau syml a chynnig atebion posibl yn seiliedig ar brofiadau blaenorol. | √ | √ | √ | √ | √ |
Rwyf wedi profi ystod o symbyliadau sydd wedi fy nghyffroi a’m hysbrydoli i ddychmygu a bod yn chwilfrydig am fy ardal leol, am Gymru yn ogystal ag am y byd. | √ | √ | √ | √ | √ |
Rwy’n dechrau cyfleu fy arsylwadau mewn ffyrdd syml. | √ | √ | √ | √ | √ |
Rwy’n dechrau cyfathrebu am fy nghanfyddiadau mewn ffyrdd syml. | √ | √ | √ | √ | √ |
Mae digwyddiadau a phrofiadau dynol yn gymhleth a chânt eu hamgyffred, eu dehongli a’u cynrychioli mewn gwahanol ffyrdd. | |||||
Rwy’n gallu ffurfio a mynegi barn syml am yr hyn rwyf yn ei hoffi a’r hyn nad wyf yn ei hoffi. | √ | √ | √ | √ | √ |
Mae ein byd naturiol yn amrywiol a deinamig, wedi’i ddylanwadu gan brosesau a gweithredoedd dynol. | |||||
Rwy’n dechrau adnabod yr effeithiau rwy’n eu cael ar y byd naturiol. | √ | ||||
Rwy’n gallu adnabod pam mae lleoedd yn bwysig i mi. | √ | √ | √ | ||
Mae gen i brofiad uniongyrchol o’r byd naturiol, ac rwy’n dechrau adnabod lleoedd sy’n gyfarwydd i mi. | |||||
Mae cymdeithasau dynol yn gymhleth ac yn amrywiol, ac maen nhw’n cael eu llywio gan weithredoedd a chredoau pobl. | |||||
Rwy’n dechrau adnabod digwyddiadau pwysig sydd wedi digwydd i mi yn y gorffennol. | √ | √ | √ | ||
Rwy’n dechrau deall fod rhai pethau wedi digwydd yn y gorffennol, rhai yn digwydd yn y presennol, ac y bydd mwy yn digwydd yn y dyfodol. | √ | √ | √ | √ | √ |
Rwy’n dechrau deall bod gan fy ngweithredoedd i, a gweithredoedd pobl eraill, achosion ac effeithiau. | √ | ||||
Rwy’n gallu ddangos ymwybyddiaeth o bwy ydwyf a’m bod i’n debyg ac yn wahanol i eraill. | |||||
Rwy’n dechrau datblygu ymwybyddiaeth o’r hyn sy’n debyg ac yn wahanol rhwng pobl. | |||||
Mae dinasyddion gwybodus, hunanymwybodol yn mynd i’r afael â’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu dynoliaeth, ac yn gallu cymryd camau ystyrlon ac egwyddorol. | |||||
Rwy’n dechrau deall fod angen i ni barchu pobl eraill. | |||||
Rwy’n dechrau deall bod gan fy ngweithredoedd i, a gweithredoedd pobl eraill, ganlyniadau. | √ | √ | |||
Trawsgwricwlaidd | |||||
Gwyddoniaeth a Thechnoleg | |||||
Rwy’n gallu dangos chwilfrydedd a chwestiynu sut mae pethau’n gweithio. | √ | √ | √ | ||