Cyflwyniad
Sesiwn lawn 4 awr gyda llawer o weithgareddau gan gynnwys y cyfle i wisgo gwisgoedd, atgynhyrchiad o darian ac arfwisg Rufeinig. Digonedd o hwyl a dysgu ymarferol!
Bydd dosbarthiadau sy’n ymweld yn cwrdd â chymeriad Rhufeinig a dod o hyd i’r hyn yr oedd bywyd a sut newidiodd Prydain Rhufeinig-Geltaidd.
Bydd gan y plant gyfle i ganfod lleoliad rhai gwrthrychau Rhufeinig yn yr ardal a chael golwg arnynt yn yr Oriel Archaeoleg.
Ar ddiwedd y dydd, bydd sioe sleidiau a fydd yn cyfuno elfennau a themâu’r dydd.
Lefel cynnydd 3
Oedran targed Blwyddyn 3 i 5
Hyd y sesiwn yw 4 awr gan gynnwys egwyl ginio.
Maes Dysgu:
Dyniaethau
Datganiadau o’r Hyn sy’n Bwysig:
Mae ymholi, archwilio ac ymchwilio’n annog chwilfrydedd ynghylch y byd, ei orffennol, y presennol a’r dyfodol.
Mae digwyddiadau a phrofiadau pobl yn gymhleth ac maent yn cael eu hystyried, eu dehongli a’u portreadu mewn ffyrdd gwahanol.
Mae dinasyddion gwybodus, hunanymwybodol yn ymgysylltu â’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu bodau dynol, ac maent yn gallu ymateb mewn ffordd ystyriol a moesegol.
Sgiliau Trawsgwricwlaidd:
Creadigrwydd a Blaengaredd
Meddwl yn feirniadol a datrys problemau