gan Phil Treseder
Swyddog Dysgu a Chyfranogi Amgueddfa Abertawe
Ym mis Ionawr 2024, rhyddhawyd ffilm o’r enw ‘One Life’. Mae’r ffilm yn seiliedig ar hanes bywyd go iawn Syr Nicholas Winton sy’n cael ei bortreadu yn y ffilm gan Sir Anthony Hopkins.
Mae’r ffilm yn canolbwyntio ar lyfr lloffion a luniwyd gan y Pwyllgor ar gyfer Ffoaduriaid Ifanc o Tsiecoslofacia ym 1939 a roddwyd i Nicholas Winton. Roedd y grŵp wedi cefnogi Nicholas Winton wrth iddo drefnu trenau Kindertransport llawn ffoaduriaid ifanc allan o Tsiecoslofacia ym 1939 i ddianc rhag y Natsïaid.
Mae’r llyfr lloffion bellach yn Yad Vashem – Amgueddfa’r Holocost yn Jeriwsalem.
Yn y ffilm, mae Nicholas Winton yn pori’r llyfr lloffion ac yn stopio ar erthygl o’r enw ‘What they have done to the Czechs’. Yn y llyfr lloffion go iawn, ar ochr chwith yr erthygl hon mae toriad o bapur newydd South Wales Evening Post. Mae’n cynnwys llythyr at y Golygydd sydd wedi’i ddyddio 20 Ebrill 1939, gyda’r teitl ‘Refugee Children;an appeal’. Mae’r llythyr o’r Parch. Rosalind Lee, Tŷ Cefn Bryn, Pen-maen ger Abertawe.
Ganwyd y Parch. Rosalind Lee yn Edgbaston, Birmingham ond yn hwyrach fyddai’n ymgartrefu yn Abertawe yn Nhŷ Cefn Bryn, Pen-maen, gyda’i brawd a oedd yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Abertawe. Mae’r tŷ yn bodoli o hyd ac mae ganddo olygfa arbennig o Fae y Tri Chlogwyn. Roedd y ddau yn gwneud llawer o waith gyda Chymdeithas Gŵyr. Prynodd y Parch. Lee sawl llain o dir ar benrhyn Gŵyr er mwyn atal unrhyw ddatblygiadau arnynt ac yna rhoddwyd y tir i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Daeth yn nyrs ‘VAD’ (Uned Wirfoddol a Gynorthwyir) yn ystod y Rhyfel Mawr ac yna daeth yn Weinidog gyda’r Eglwys Undodaidd ym 1919. Roedd yn aelod o bwyllgor cyntaf Cynghrair Prydain o Fenywod Undodaidd o 1908 a daeth yn Ysgrifennydd Cenedlaethol y pwyllgor ym 1929. Yn hwyrach, cafodd ei hethol yn Llywydd y Cynulliad Cyffredinol Undodaidd ym 1940.
Bu’r Parch. Lee yn gwasanaethu fel Gweinidog yn Nhreorci, Caerlŷr, Hackney a Stourbridge ac fel gweinidog ardal ar gyfer de Cymru.
Ym mis Hydref 1939 aeth i Brag i sefydlu a chynnal ‘Swyddfa Cyfeillion Ffoaduriaid’ gyda Gweinidog Undodaidd arall, John McLachlan. Gweithiwyd yn agos gyda Doreen Warriner, a hi yw’r unig un allan o’r tri sy’n ymddangos yn y ffilm.
Mae rhestr gyfan o’r 669 o blant a gafodd eu hachub, sy’n Iddewig yn bennaf, ar-lein. Yn anffodus, ataliwyd y trên olaf, a oedd â 250 o blant arno, rhag gadael ar 1 Medi 1939 oherwydd dechrau’r rhyfel ac o ganlyniad i hynny cafodd y rhan fwyaf o’r plant hynny eu llofruddio.
Nid oedd Llywodraeth Prydain wedi caniatáu trosglwyddo’r plant hyn heb warantwr ar waith a fyddai’n gofalu am y plant ac yn talu’r costau.
Mae’r rhestr o blant yn cynnwys gwybodaeth am enwau, dyddiadau geni a chyfeiriadau yn y DU a manylion y gwarantwr. O’r rhestr, gallwn weld bod y Parch. Lee yn warantwr neu’n gyd-warantwr ar gyfer llawer o blant.
Nid oedd pob un ohonynt yn Abertawe, llwyddodd i ddod o hyd i gartrefi i rai ohonynt gyda’i theulu a’i ffrindiau. Dyma rai o’r plant a achubwyd:
Ivo Englander, ganwyd ym 1924.
Eduard Kestenbaum, ganwyd ym 1930.
Ervin Kestenbaum, ganwyd ym 1926.
Renee Kestenbaum, ganwyd ym 1928.
Katarina Kestenbaum, ganwyd ym 1931.
Ni fyddai’r plant uchod yn dychwelyd i Tsiecoslofacia. Yn dilyn y rhyfel, fyddai’r ddwy chwaer Kestenbaum, Renee a Katarina, yn allfudo i’r Unol Daleithiau. Yn hwyrach, fyddai’r brodyr, Eduard ac Ervin, yn gwneud cais am ddinasyddiaeth Brydeinig ym 1947 ac arhosodd y ddau yn y DU. Ar yr un pryd, newidiwyd cyfenw’r ddau i Berry.
Mae’n ymddangos bod Eduard wedi symud i Birmingham o bosib, er bod Ervin wedi aros yn Abertawe.
Wrth chwilio’r rhestr o ddioddefwyr yr Holocost o Dsiecoslofacia am Kestenbaum, cynhyrchwyd dau enw’n unig a gallai’r rhain wedi bod yn rhieni iddynt. Llofruddiwyd Frantisek, a anwyd ym 1898, ar 13 Awst 1942 yn Majdenek. Ganwyd Hana (er, ar y cofnodion mae’r sillafu ychydig yn wahanol, mae’n bosib bod hyn yn gamgymeriad gan yr SS) ym 1897, a chafodd ei llofruddio ar ddyddiad anhysbys mewn lleoliad anhysbys.
Mae’n ymddangos bod y cyfenw, Englander, yn eithaf cyffredin, felly nad oeddem yn gallu dod o hyd i rieni Ivo, ond mae’n eithaf diogel i dybio eu bod nhw hefyd wedi cael eu llofruddio.
Os nad oeddent wedi goroesi’r rhyfel, byddai eu calonnau wedi torri wrth iddynt ddysgu nad oedd eu mab wedi goroesi. Gan mai ef oedd yr hynaf o’r 5 plentyn, daeth Ivo’n gymwys i gofrestru ar gyfer Awyrlu Tsiecoslofacia a oedd yn gweithredu ym Mhrydain, ac fe ymunodd.
Cafodd ei ladd ar 1 Ionawr 1945 wrth iddo ddychwelyd o’i batrôl gyda’r Awdurdod Arfordirol. Yn ystod tywydd garw, disgynnodd ei awyren Liberator yn ochr ogleddol Ynys Hoy, Orkney
Trosglwyddwyd ei gorff i’r tir mawr, a chafodd ei gladdu ym mynwent Tain, Ucheldiroedd yr Alban.