Cyflwyniad
Dechreuodd Rheilffordd Abertawe i Ystumllwynarth weithredu ym 1806, yn dilyn cais llwyddiannus i’r Senedd ym 1804. Roedd y rheilffordd, fel pob un arall, yn cludo nwyddau. Ym 1807, cymerodd Benjamin French, un o’r cyfranddalwyr, drwydded am £20 y flwyddyn i gludo teithwyr, ac felly, hi oedd y rheilffordd gyntaf yn y byd i gludo teithwyr.
Bydd y sesiwn yn olrhain hanes y rheilffordd o gerti a dynnwyd gan geffylau, i ager, i drydan ac ymgais aflwyddiannus cynnar ar bŵer gwynt. Roedd y rheilffordd hefyd yn rhan o’r ddadl ar y pryd o ran ai twristiaeth neu ddiwydiant fyddai dyfodol Abertawe.
Bydd y sesiwn hefyd yn cynnwys ymweliad â’r sied dramiau, sy’n agos i’r amgueddfa a lle cedwir y rhan fwyaf o arteffactau Rheilffordd y Mwmbwls.
Lefel cynnydd 2/3
Ystod oedran darged – Blwyddyn 3 i 6
Hyd y sesiwn – 2 awr
Maes Dysgu:
Dyniaethau
Datganiadau o’r Hyn sy’n Bwysig:
Mae ymholi, archwilio ac ymchwilio’n annog chwilfrydedd ynghylch y byd, ei orffennol, y presennol a’r dyfodol.
Mae digwyddiadau a phrofiadau pobl yn gymhleth ac maent yn cael eu hystyried, eu dehongli a’u portreadu mewn ffyrdd gwahanol.
Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Mae meddylfryd dylunio a pheirianneg yn cynnig ffyrdd technegol a chreadigol o ddiwallu anghenion a dymuniadau cymdeithas.
Sgiliau Trawsgwricwlaidd:
Creadigrwydd a Blaengaredd
Meddwl yn feirniadol a datrys problemau
Camau Cynnydd 3