Cyflwyniad
Mae llawer o ysgolion bellach yn ysgolion sy’n parchu hawliau a gobeithio y bydd y rhan fwyaf o blant yn ymwybodol o CCUHP. Ond sut y cyrhaeddon ni’r man hwn heddiw wrth gydnabod hawliau plant? Bydd y sesiwn yn mynd â phlant yn ôl 200 mlynedd pan roedd plentyndod i’r rhan fwyaf o blant yn stori wahanol iawn o’i gymharu â heddiw. Bydd y sesiwn yn canolbwyntio ar gyd-destun lleol yn hanesyddol ond bydd hefyd yn ystyried y sefyllfa genedlaethol a rhyngwladol dros gyfnod o 200 mlynedd.
Bydd y sesiwn yn edrych ar fywyd yn yr ysgol, mewn ffatrïoedd a’r pyllau glo a bydd yn cynnwys cyflwyniad PowerPoint a’r gweithgareddau fydd yn edrych ar ei hanes hyll.
Cynulleidfa
Oedran targed Blwyddyn 4-6
Hyd y sesiwn – 2 awr
Bydd y sesiwn yn cynnwys cyflwyniad a gweithgareddau, a fydd yn cwmpasu:
- Y cyd-destun hanesyddol ar hawliau plant a sut datblygon nhw, ynghyd â rhai cymariaethau â datblygiad hawliau merched a hawliau anifeiliaid.
- Rhyngweithio â gwrthrychau hanesyddol
- Tystiolaeth ddogfennol hanesyddol
- Tystiolaeth plant fu’n gweithio yn y pyllau a’r ffatrïoedd
- Adroddiadau papurau newydd o’r cyfnod
Maes Dysgu:
Dyniaethau
Datganiadau o’r Hyn sy’n Bwysig:
Mae ymholi, archwilio ac ymchwilio’n annog chwilfrydedd ynghylch y byd, ei orffennol, y presennol a’r dyfodol.
Mae digwyddiadau a phrofiadau pobl yn gymhleth ac maent yn cael eu hystyried, eu dehongli a’u portreadu mewn ffyrdd gwahanol.
Mae cymdeithasau dynol yn gymhleth ac yn amrywiol, a chânt eu siapio gan weithredoedd a chredoau dynol.
Mae dinasyddion gwybodus, hunanymwybodol yn ymgysylltu â’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu bodau dynol, ac maent yn gallu ymateb mewn ffordd ystyriol a moesegol
Sgiliau trawsgwricwlaidd
Llythrennedd
Datblygu llefaredd trwy drafod, chwarae rôl, holi a chyflwyniadau.
Cael mynediad at ystod o destunau o amrywiaeth o leoedd ac amseroedd a’u harchwilio er mwyn dadansoddi tystiolaeth.
Rhifedd
Ymgysylltu â chysyniadau fel ymwybyddiaeth gronolegol a graddfa.