Roedd y rhyfel yn amharu’n ddifrifol ar y gallu i fewnforio bwyd o ledled y byd, hyd yn oed i’r rhai a oedd yn byw ger porthladd mawr fel Abertawe. Prinder bwyd oedd y canlyniad i hyn a arweiniodd at ddogni.
Dosbarthwyd llyfrau dogni i deuluoedd a oedd yn nodi’r symiau cyfyngedig o fwyd sylfaenol a ddyrennid iddynt bob wythnos. Roedd yn hanfodol cofrestru gyda groser, cigydd a phobydd – mae T & G. Davies; pobwyr teulu o’r Mwmbwls yn dal i weithredu heddiw ar ôl goroesi blynyddoedd y rhyfel.
Hyrwyddodd y llywodraeth ymgyrch o’r enw ‘Cloddio am Fuddugoliaeth’ lle roedd pobl yn cael eu hannog i ddefnyddio eu gerddi a’u rhandiroedd i dyfu cnydau i ychwanegu at y bwyd wedi’i ddogni. Roedd posteri’n cael eu harddangos i atgoffa pobl o werth eu cyfraniad at yr ymdrech ryfel e.e. “Your bread costs ships. Eat home-grown potatoes instead!” ”
Roedd petrol hefyd yn cael ei ddogni, fel yr oedd losin. Roedd rhaid casglu cwponau dillad er mwyn prynu dillad newydd, felly deuai pobl yn fedrus wrth ddyfeisio, addasu dillad fel y gallai plant llai eu gwisgo neu ddatod dillad gwau i’w hail-wau’n ddillad newydd.
Mwy o wybodaeth…
Darllenwch fwy am Abertawe yn ystod yr Ail Ryfel Byd… Plant adeg y Rhyfel