Mae storfa Amgueddfa Abertawe yn adeilad hanesyddol bwysig ar hen safle gwaith copr yr Hafod/Morfa yng Nglandŵr.
Yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd y gwaith copr hwn yn ganolbwynt mwyngloddio copr y byd, ond ychydig iawn o adeiladau sy’n weddill ar y safle i nodi’r cyfnod hwn yn hanes Abertawe.
Mae eitemau poblogaidd yn y storfeydd yn cynnwys beiciau modur, hen gerbydau’r heddlu, trenau a thractorau. Gwelwch hefyd hen injan dân a bad achub William Gammon, a roddwyd i’r amgueddfa ym 1992.
Fe’i henwyd er cof am lywiwr y bad achub, a fu farw gyda saith aelod arall o’r criw ar 23 Ebrill 1947 wrth geisio achub criw’r Samtampa.
Dod o hyd i’r storfeydd
Mae’r Ganolfan Gasgliadau nesaf at y maes parcio Parcio a Theithio, gyferbyn â Stadiwm Liberty, ar y ffordd gyswllt ar draws y cwm yng Nglandŵr, Abertawe SA1 2JT.
Mae Canolfan Gasgliadau Amgueddfa Abertawe ar agor i ymwelwyr bob dydd Mercher, rhwng 10.00am a 4.00pm, fel y gall y cyhoedd ymweld â’r casgliadau wrth gefn, gan gynnwys y casgliad o’r hen Amgueddfa Forol a Diwydiannol yn Abertawe.