Mae gan yr Amgueddfa nifer o gychod yn ei chasgliadau ac mae dau o’r rhain yn arnofio ym Marina Abertawe: goleulong yr Helwick a thynfad o’r enw Canning.
Yr Helwick
Treuliodd goleulong 91, a elwir yn ‘Helwick’, lawer o’i bywyd yn rhybuddio llongau am Draethell Helwick ar Fôr Hafren.
Gellir ymweld â’r rhan fwyaf o’r cwch i weld llety’r criw ac edrych ar y peiriandy a’r dec uchaf gyda’i olau hynod bwysig.
Canning
Adeiladwyd y tynfad ‘Canning’ ym 1954. Mae’n dynfad stêm sy’n llosgi olew ac roedd yn gweithio o Ddociau Abertawe o 1966.
Ar ôl iddi ymddeol, daeth yn rhan o gasgliad yr Amgueddfa ym 1975. Ni ellir mynd ar y Canning, ond gellir ei gweld yn glir o’r pontŵn ac ymyl y doc.