Mae Sefydliad Brenhinol De Cymru yn gweithredu fel Ffrindiau Amgueddfa Abertawe trwy gefnogi digwyddiadau a phrynu gwrthrychau.
Mae rhai o’r pethau a gafwyd yn ddiweddar yn cynnwys paentiad o Ddoc y De ym 1852, cerameg Abertawe a phlât gwydr ffotograffig gan Calvert Richard Jones sy’n dangos y Mwmbwls ym 1850.
Sefydlwyd SBDC ym 1835 fel cymdeithas athronyddol a llenyddol, ac ym 1841 agorwyd Amgueddfa Abertawe ganddo a’i rheoli am dros 100 mlynedd.
Sut i fod yn Gyfaill i Amgueddfa Abertawe
Os hoffech ymuno â’r SBDC, lawrlwythwch y ffurflen o’r ddolen isod a’i dychwelyd, neu gallwch ymuno yn un o ddigwyddiadau neu gyfarfodydd yr SBDC.
Ysgrifenyddes Aelodaeth yr SBDC
d/o Amgueddfa Abertawe
Heol Victoria
Abertawe SA1 1SN.
Ffôn: 01792 653763
E-bost: bibcardv@yahoo.co.uk
Mae aelodau’n cael copi argraffedig o raglen ddigwyddiadau a thri chylchlythyr y flwyddyn. Maent yn cael gostyngiad ar Gylchgrawn Hanes Abertawe, cyhoeddiad blynyddol yr SBDC, a nwyddau a brynir o Amgueddfa Abertawe.