Hefyd, rheolir y Sied Dramiau ar Sgwâr Dylan Thomas, yn y Marina, gan Amgueddfa Abertawe.
Ar agor ar ddydd Mawrth a dydd Sadwrn rhwng 11am a 4pm.
Mae amseroedd agor yn dibynnol ar argaeledd gwirfoddolwyr. Rydym yn argymell eich bod yn dod yn gynnar i osgoi cael eich siomi. 01792 653763
Bydd y Sied Dramiau ar gau ar gyfer y tymor o ddechrau mis Tachwedd hyd at ddiwedd mis Chwefror 2025.
Gwelwch eitemau cofiadwy, megis tramiau stryd Abertawe a thrên byd-enwog y Mwmbwls a oedd yn arfer teithio o gwmpas ymyl Bae Abertawe o ganol tref Abertawe i Bier y Mwmbwls.
Mae eitemau o ddiddordeb yn cynnwys:
- Tram stryd deulawr Abertawe
- Adluniad o dram y Mwmbwls a oedd yn cael ei dynnu gan geffylau ym 1804, y gwasanaeth rheilffordd cyntaf yn y byd i deithwyr
- Y rhan olaf sy’n weddill o dram y Mwmbwls a oedd yn cael ei ddefnyddio yn y 1960au – gallwch ddringo i mewn a mynd i’r llawr uchaf.
Mae mynediad am ddim ac mae’r llawr gwaelod yn hygyrch i gadeiriau olwyn. Yn anffodus, nid yw’r mesanîn a’r tramiau.
I gael mwy o wybodaeth am reilffordd gyntaf y byd i deithwyr, ewch i dudalen Trên y Mwmbwls.